Rydym wedi llunio’r pecyn hwn ar gyfer ysgolion i’ch helpu i gynnal ‘Wythnos Gwrth-fwlio 2023: Gwnewch Sŵn’ yn eich ysgol uwchradd neu gyda phlant o oedran ysgol uwchradd yn eich lleoliad.
You can find the English language version here
Wythnos Gwrth-fwlio 2023: Pecyn Ysgolion Uwchradd
Ar y dudalen hon, gallwch ganfod popeth sydd ei angen arnoch i gynnal Wythnos Gwrth-fwlio 2023: Gwnewch Sŵn am Fwlio yn eich ysgol uwchradd.
Mae’r adnoddau hyn yn addas i Gamau 3 neu 4. Mae’r adnoddau yn mynd i’r afael â bwlio wyneb yn wyneb a bwlio sy’n digwydd ar-lein.
Mae ein pecyn yn cynnwys cynlluniau gwersi, cynlluniau i gynnal gwasanaethau boreol, syniadau am weithgareddau trawsgwricwlaidd a llawer rhagor i’ch helpu i gynnal sgyrsiau defnyddiol am fwlio.
Dymunwn ddiolch i’r canlynol:
- Yr holl bobl ifanc sydd wedi cyfrannu at ddatblygu’r thema eleni a’r ffilmiau ar gyfer ysgolion. Yn enwedig i’r bobl ifanc hynny o’r ‘Gynghrair Gwrth-fwlio’
- Tîm Seicoleg NTU – Prifysgol Nottingham Trent: Loren Abbell, Lucy Betts, Sarah Buglass ac Oonagh Steer
Os oes gennych chi ragor o gwestiynau am yr adnoddau, e-bostiwch [email protected].
Adnoddau y gellir eu lawrlwytho