Mae ein hadnoddau Diwrnod Sanau Od 2025 RHAD AC AM DDIM ar gael i chi eu llawrlwytho.
Lluniau Diwrnod Sanau Od
Mae Diwrnod Sanau Od yn rhoi cyfle i’ch ysgol gael hwyl, i chi fod yn chi'ch hun, a lledaenu ymwybyddiaeth o'r gwerthoedd craidd y mae Wythnos Gwrth-fwlio yn eu hyrwyddo. Ar gyfer Diwrnod Sanau Od 2025 rydym wedi creu pecyn ysgol sy'n cynnwys:
- Taflenni bagiau darllen
- Posteri
- Taflenni
- Gweithgareddau ysgol gyfan ac ystafell ddosbarth
wedi'u cynllunio i helpu plant ac oedolion mewn amgylchedd ysgol neu flynyddoedd cynnar i feddwl am sut mae bwlio yn effeithio arnom ni, beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am fwlio a pham ei bod hi'n bwysig ein bod ni i gyd yn unigryw.
Rydym yn cynnal Diwrnod Sanau Od mewn partneriaeth ag Andy and the Odd Socks. Mae Andy and the Odd Socks yn un o'r bandiau mwyaf poblogaidd i blant ifanc yn y DU.
Ar waelod y dudalen hon, fe welwch chi'r holl adnoddau o Ddiwrnod Sanau Od 2025!