Mae ein hadnoddau RHAD AC AM DDIM ar gyfer Diwrnod Sanau Od ar gael i’w lawrlwytho.
Lawrlwythwch Becyn Ysgolion Diwrnod Sanau Od 2024
Gallwch gyrchu fersiynau Saesneg yma
Mae Diwrnod Sanau Od yn cynnig cyfle i’ch ysgol gael hwyl, bod yn chi eich hun a chynyddu ymwybyddiaeth o’r gwerthoedd craidd y mae Wythnos Gwrth-fwlio yn eu hyrwyddo. Ar gyfer Diwrnodau Sanau Od 2024, rydym wedi creu pecyn ar gyfer ysgolion sy’n cynnwys:
- Taflenni cyhoeddusrwydd i’w rhoi mewn bagiau ysgol
- Posteri
- Taflenni
- Gweithgareddau cyfarfodydd boreol/gwersi
Mae’r holl syniadau yn ein deunyddiau wedi’u llunio i helpu plant ac oedolion mewn ysgol neu amgylchedd blynyddoedd cynnar i ystyried sut mae bwlio yn effeithio arnom ni, beth ddylech ei wneud os ydych chi’n poeni am fwlio, a pham mae’n bwysig fod pawb ohonom ni’n unigryw.
Byddwn yn cynnal Diwrnod Sanau Od ar y cyd ag Andy and the Odd Socks. Andy and the Odd Socks yw un o’r bandiau mwyaf poblogaidd i blant ifanc yn y DU.
Ar waelod y dudalen hon, gallwch ganfod holl adnoddau Diwrnod Sanau Od 2024!
Bydd Andy and the Odd Socks yn ail-ryddhau eu cân afaelgar, 'Choose Respect', i nodi Diwrnodau Sanau Od eleni. Caiff y fideo ei lansio yn nes at ddyddiad Diwrnod Sanau Od, ond am y tro, gallwch wrando ar y gân yma ar Spotify: