Rydym wedi llunio’r pecyn hwn ar gyfer ysgolion i’ch helpu i gynnal ‘Wythnos Gwrth-fwlio 2023: Gwnewch Sŵn’ yn eich ysgol gynradd neu gyda phlant o oedran ysgol gynradd yn eich lleoliad.

You can access English language here
Wythnos Gwrth-fwlio 2023: Pecyn Ysgolion Cynradd
Yn y pecyn hwn (sydd ar gael ar waelod y dudalen hon), gallwch ganfod:
- Cynllun gwers
- Cynllun wasanaeth boreol
- Gweithgareddau trawsgwricwlaidd
- Syniadau i’ch helpu i gynnal Wythnos Gwrth-fwlio
- Taflenni a chyflwyniadau PowerPoint
- Poster Wythnos Gwrth-fwlio
Mae’r holl syniadau yn y pecyn hwn wedi’u llunio i helpu ysgolion i ddathlu a chyfranogi yn Wythnos Gwrth-fwlio 2023. Gellir defnyddio’r adnoddau gyda Chamau Cynnydd 1 neu 2. Mae’r adnoddau yn mynd i’r afael â bwlio wyneb yn wyneb a bwlio sy’n digwydd ar-lein.
Mae’r pecyn yn cynnwys cynllun ar gyfer gwasanaeth boreol, cynllun gwers a syniadau am weithgareddau trawsgwricwlaidd sydd wedi’u llunio i annog disgyblion i ystyried sut gallwn ni uno i fynd i’r afael â bwlio ar-lein ac yn y byd go iawn.
Hoffem ddiolch i’r canlynol:
- Yr holl bobl ifanc sydd wedi cyfrannu at ddatblygu’r thema eleni a’r ffilmiau ar gyfer ysgolion. Yn enwedig pobl ifanc y ‘Gynghrair Gwrth-fwlio Ifanc’, Ysgol Gynradd Devonshire Road, Bolton, ac Ysgol Gynradd Loughborough, Brixton.
- Tîm Seicoleg NTU – Prifysgol Nottingham Trent: Loren Abbell, Lucy Betts, Sarah Buglass ac Oonagh Steer.
Os oes gennych chi ragor o gwestiynau am yr adnoddau, e-bostiwch [email protected].
Adnoddau y gellir eu lawrlwytho