Rydym wedi llunio’r pecyn hwn ar gyfer ysgolion i’ch helpu i gynnal ‘Wythnos Gwrth-fwlio 2024: Dewiswch Barch’ yn eich ysgol gynradd neu gyda phlant o oedran ysgol gynradd yn eich lleoliad.
Lawrlwythwch Becyn Ysgolion Cynradd Wythnos Gwrth-fwlio 2024
Gallwch gyrchu fersiynau Saesneg yma
Yn y pecyn hwn (sydd ar gael ar waelod y dudalen hon), gallwch ganfod:
- Gweithgareddau gwersi
- Gweithgareddau cyfarfodydd boreol
- Gweithgareddau trawsgwricwlaidd
- Syniadau i’ch helpu i gynnal Wythnos Gwrth-fwlio 2024
- Taflenni a chyflwyniadau PowerPoint (Mae’r cyflwyniadau PowerPoint hefyd ar gael yma).
- Poster Wythnos Gwrth-fwlio 2024 i’w godi yn yr ysgol
Mae’r holl syniadau yn y pecyn hwn wedi’u llunio i helpu ysgolion i ddathlu a chyfranogi yn Wythnos Gwrth-fwlio 2024. Gellir defnyddio’r adnoddau gyda Chyfnodau Allweddol 1 neu 2. Mae’r adnoddau yn mynd i’r afael â bwlio wyneb yn wyneb a bwlio sy’n digwydd ar-lein.
Mae’r pecyn yn cynnwys cynllun i gynnal cyfarfod boreol, cynllun gwers a syniadau am weithgareddau trawsgwricwlaidd sydd wedi’u llunio i annog myfyrwyr i ystyried sut gallwn ni ‘Ddewis Parch’ yn lle bwlio, a sut gallwn fod yn ddelfrydau ymddwyn o ran yr ymddygiad hwn.
Dymunwn ddiolch o waelod calon i’r canlynol:
- Yr holl bobl ifanc sydd wedi cyfrannu at ddatblygu’r thema eleni, yn enwedig y bobl ifanc hynny o’r ‘Gynghrair Gwrth-fwlio Ifanc’.
Os oes gennych chi ragor o gwestiynau am yr adnoddau, e-bostiwch [email protected].