Rydym wedi datblygu Pecyn RHAD AC AM DDIM ar gyfer Rhieni a Gofalwyr i’ch helpu i gynnal gweithgareddau Wythnos Gwrth-fwlio 2024 a Diwrnod Sanau Od yn eich cartref. Beth bynnag yw oedran eich plentyn, bydd yr adnodd hwn yn eich helpu i gychwyn sgwrs am fwlio, a chynnig syniadau eraill ynghylch gwaith gwrth-fwlio yn eich cartref.
Fel rhieni a gofalwyr, rydym oll yn awyddus i’n plant fod yn hapus a diogel, ac mae’n naturiol ein bod ni’n poeni am fwlio, yn enwedig os ydym ni ein hunain wedi profi bwlio neu os ydym yn credu y gallai ein plentyn fod yn fwy tebygol o brofi bwlio. Yn ffodus, nid ydych chi ar eich pen eich hun! Mae’r Gynghrair Gwrth-fwlio a’i haelodau ar gael i weithio gyda phlant, teuluoedd ac ysgolion i gadw plant yn ddiogel.
Bob mis Tachwedd, bydd ysgolion ledled y Deyrnas Unedig yn cyfranogi yn Wythnos Gwrth-fwlio. Mae’n gyfle i ddwyn sylw at fwlio ac ystyried y camau y gallwn eu cymryd gyda’n gilydd i atal hynny. Bydd Wythnos Gwrth-fwlio 2024 yn cael ei chynnal rhwng Dydd Llun 11 a Dydd Gwener 15 Tachwedd, a thema’r wythnos yw Dewiswch Barch.
Fel rhiant neu ofalwr, rydych chi’n rhan hanfodol o’r ymdrechion i fynd i’r afael â bwlio. Mae gennych rôl unigryw o ran llywio a chynorthwyo eich plentyn tra byddant yn yr ysgol a gallwch chi gymryd llawer o gamau buddiol i ddiogelu eich plentyn rhag bwlio a niwed.
Rhannwch eich gweithgarwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol os gwelwch yn dda. Byddem ni wrth ein bodd yn gweld eich gwaith.