Rydym wedi datblygu’r pecyn ysgol hwn i’ch helpu i ddod ag ‘Wythnos Gwrth-fwlio 2025: Gallu er Gwell’ yn fyw yn eich ysgol gynradd neu gyda phlant oedran ysgol gynradd yn eich lleoliad.
Llawrlwythwch y Pecyn Ysgol Gynradd ar gyfer Wythnos Gwrth-fwlio 2025
Mae’r fersiwn Saesneg ar gael yma
Yn y pecyn (a welir ar waelod y dudalen hon) fe welwch:
- Gweithgaredd Ysgol Gyfan
- Gweithgareddau Ystafell Ddosbarth
- Gweithgareddau Trawsgwricwlaidd
- Syniadau i'ch helpu i ddod ag Wythnos Gwrth-fwlio 2025 yn fyw
- Taflenni a chyflwyniadau PowerPoint (Gweler y cyflwyniadau PowerPoint yma).
- Poster Wythnos Gwrth-fwlio ar gyfer yr Ysgol
Mae'r holl syniadau yn y pecyn hwn wedi'u cynllunio i helpu ysgolion i ddathlu a chymryd rhan yn Wythnos Gwrth-fwlio 2025. Gellir defnyddio'r adnoddau hyn gyda dysgwyr 4-11 oed. Mae'r adnoddau'n mynd i'r afael â mater bwlio wyneb yn wyneb yn ogystal â bwlio ar-lein.
Hoffem ddiolch o galon i’r canlynol:
- Llywodraeth Cymru am eu cefnogaeth i’n helpu i ddod ag Wythnos Gwrth-fwlio i ysgolion yng Nghymru.
- Yr ysgolion a’n helpodd i ddatblygu’r adnoddau hyn: Ysgol Gymuned Bryngwran, Ysgol Santes Dwynwen and Caerleon Lodge Hill Primary School.
- Yr holl bobl ifanc a fu’n rhan o ddatblygu’r thema eleni. Yn enwedig y bobl ifanc hynny o’r ‘Young Anti-Bullying Alliance’
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adnoddau hyn, anfonwch e-bost at [email protected].