Mae Wythnos Gwrth-fwlio 2025 yn agosáu, a chaiff ei chynnal rhwng Dydd Llun 10 a Dydd Gwener 14 Tachwedd, a thema’r wythnos yw: ‘Gallu er Gwell’.
Eleni, trwy gyfrwng ein gwaith ar y cyd â Llywodraeth Cymru, rydym ni yn y Gynghrair Gwrth-fwlio yn falch o allu cynnig pecynnau RHAD AC AM DDIM i ysgolion yng Nghymru. Maent ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac wedi’u mapio yn unol â Chwricwlwm Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Pecynnau Ysgolion: Adnoddau ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd sy’n cynnwys cynlluniau gwersi, syniadau trawsgwricwlaidd a chynlluniau cyfarfodydd boreol.
- Pecyn Ysgolion Diwrnod Sanau Od: Mae Diwrnod Sanau Od yn cael ei gynnal ddydd Llun 10 Tachwedd.
Anti-Bullying Week 2025 is fast approaching, taking place from Monday 10th to Friday 14th November, with the theme: ‘Power for Good'.
This year, through our work with the Welsh Government, we are pleased at the Anti-Bullying Alliance to be able to provide FREE packs to schools in Wales. They are available in Welsh and English and are mapped against the Welsh curriculum. These include:
- School Packs: Resources for primary and secondary schools which include lesson plans, cross-curricular ideas, and assembly plans.
- Odd Socks Day School Pack: Odd Socks Day is taking place on Monday 10th November.